Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 21 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14:50 - 16:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Suzy Davies Mick Antoniw (yn lle Julie James) Eluned Parrott Simon Thomas (yn lle David Melding) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Julia Hill, Llywodraeth Cymru Gary Haggaty, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Ymchwilydd) Siân Richards (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd Eluned Parrott AC Simon Thomas AC i fod yn Gadeirydd dros dro.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC hefyd. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
2.1 CLA316 Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013
2.2 CLA317 Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA319 Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad.
4 Trafodaeth ynghylch y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon y’i gwnaed yn unol â’r pwerau a’r gweithdrefnau cywir.
5 Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog cyn y Ddadl yng Nghyfnod 1.
6 Papurau i’w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.